Resolved
RESOLVED that Gill Vaisey be nominated by Denbighshire SACRE members for Vice Chair of .
Religious Education (SACRE) decided this item on Wednesday 5 July 2017. Below is the council's own wording, with the papers it was decided on.
Resolved
RESOLVED that Gill Vaisey be nominated by Denbighshire SACRE members for Vice Chair of .
Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith y CCYSAGauC (Gorffennaf 7, 2017)
Nominations for the Executive Committee (7 July, 2017)
Mae DAU o enwebiadau ar gyfer DWY swydd ar y Pwyllgor Gwaith.
There are TWO nominations for TWO positions on the Executive Committee.
1. Alison Lewis CYSAG Abertawe
Mae gen i radd mewn Athroniaeth o Brifysgol Abertawe ac rwyf yn fam i ddau o fechgyn. Rwyf wedi bod yn bennaeth yr Adran Addysg Grefyddol yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn Abertawe ers 2001. Pan gyrhaeddais yno, fy nghenhadaeth oedd chwyldroi’r adran drwy wneud yn siŵr fod pob disgybl yng Nghefn Hengoed yn cael cyfle i astudio pwnc a fyddai nid yn unig yn gymhwyster TGAU pwysig iddynt, ond yn un sydd mor gyfoethog mewn sgiliau bywyd hanfodol. Felly, er mai dim ond 2 awr y pythefnos oedd gen i ar y cwricwlwm, teilwrais y cwrs TGAU i ganiatáu iddo gael ei ddysgu o dan y cyfyngiadau hynny. Ni oedd yr ysgol anenwadol gyntaf yng Nghymru i gael cohort llawn yn ymgeisio am TGAU Astudiaethau Crefyddol, yn cynnwys pob disgybl yn ein Hadran Addysgu Arbenigol.
Mae fy adran wedi mynd o nerth i nerth, ac mewn adeg pan mae oriau pwnc yn cael eu torri ar draws y cwricwlwm, bûm yn rhagweithiol yn sicrhau mwy o amser cwricwlwm i roi addysg grefyddol gyflawn a chytbwys i’r disgyblion, yn llawn o sgiliau a gwerthoedd sydd yn hanfodol i’w bywyd fel oedolion ifanc. Mae’n destun balchder i mi fod AG yn cael ei gydnabod fel pwnc gwerthfawr yn fy ysgol ond rwy’n deall nad felly y mae hi ymhob man, ac yn teimlo mai rhan o’m gwaith yw sicrhau fod AG yn cael lle teilwng ym mhob ysgol. Nid yw ‘talu gwrogaeth’ i AG yn ddigon; mae’n hollbwysig fod rhwymedigaethau statudol yn cael eu glynu atynt a bod AG ystyrlon yn cael ei dysgu ar draws pob ysgol yng Nghymru.
Yn ystod fy ngyrfa addysgu hyd yma, rwyf wedi bod yn arholwr TGAU Astudiaethau Crefyddol i CBAC a chefais fy newis i weithio ochr yn ochr â Gavin Creigen fel cymedrolydd ar gyfer lefelu safoni mewn Addysg Grefyddol yn 2012. Rwyf hefyd wedi gwasanaethu ar CYSAG Abertawe am flynyddoedd lawer fel Is Gadeirydd a bellach yn Gadeirydd, ac wedi cynrychioli fy CYSAG yng nghynadleddau CCYSAGauC.
Yn ogystal â dysgu’n llawn amser, rwyf yn gweithio ar hyn o bryd gydag ERW fel Ymarferydd Arweiniol dros Addysg Grefyddol. Fy swyddogaeth yw rhoi i athrawon AG y sgiliau, yr wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i ddysgu Manyleb newydd TGAU mewn AG 2017, paratoi ar gyfer y cymhwyster newydd drwy sefydlu cyfarfodydd rhwydwaith a chreu cyfleoedd i gydweithio yn ogystal â chreu adnoddau ar blatfform digidol Llywodraeth Cymru, Hwb, i gydweithwyr yng Nghymru. Rwyf wedi cyflwyno cynnydd yr Ymarferydd Arweiniol mewn cynadleddau diweddar i’r rhwydwaith, CYSAG a CBAC.
Bûm yn rhan o brosiectau peilot Llythrennedd a Rhifedd yn fy ysgol ac rwyf wedi rhannu arfer da ymhlith cydweithwyr mewn cyfarfodydd rhwydwaith. Cyn bo hir byddaf yn datblygu agweddau o ddull gweithredu Donaldson ar Gymhwysedd Digidol drwy AG drwy gydweithio ag arbenigwyr TG i gynhyrchu cyrsiau Moodle i’r Fanyleb newydd i AG gan ddefnyddio Hwb.
Credaf y bydd fy mhrofiad yn fy ngalluogi i wneud cyfraniad gwerthfawr i Bwyllgor Gwaith CCYSAGauC a byddwn yn ei chael yn fraint gwasanaethu arno, er budd fy mhwnc a chydweithwyr yng Nghymru. 1. Alison Lewis Swansea SACRE
Pro opens the officer report behind each decision, searchable and quotable, across every council we cover.
PDF |
6a. Draft Minutes WASACRE Monmouthshire 3 March PW (1)Minutes | 413 KB | Download |
PDF |
Nominations for Executive CommitteeReport | 287 KB | DownloadRead as text |
PDF |
WASACREAgenda | 82 KB | Download |
Follow Religious Education (SACRE) at Denbighshire and we tell you when its next papers are published, before the meeting rather than after it.
| Meeting | Decision | Outcome | |
|---|---|---|---|
| 2 Jun 2026 | Minutes of last meetingthat the minutes of the SACRE meeting held on the 6 February 2026 be received and approved as a correct record. | Approved | Open |
| 2 Jun 2026 | Esgob morganthat the Ysgol Esgob Morgan presentation on War and Conflict be received. | Decided | Open |
| 2 Jun 2026 | Religious studies gcsethat the update on the Religious Studies GSCE be received. | Decided | Open |
| 2 Jun 2026 | Denbighshire summer 2026 newsletterIt was agreed that the Newsletter continued to provide a good opportunity to promote SAC(RE)’s work with schools by s... | Agreed | Open |
| 2 Jun 2026 | Analysis of inspection reportsRESOLVED : that the Analysis of Inspection Reports be noted. | Noted | Open |
We use a cookie to keep you signed in and run your free-paper allowance, and an optional one to count visits. You can accept all, or choose. Privacy & cookies
Keeps you signed in and runs your free-paper allowance. Always on.
Counts visits and which pages are used. First-party only, no advertising, never shared.