CouncilMonitor
194 principal councils 228,996 meetings since 2000 2.8 million official papers archived Straight from each council's own publication system
Denbighshire County Council
Welsh Language Steering Committee, Tuesday 8 November 2022 at 10.00am

FOR INFORMATION - WELSH AS A WAY OF WORKING REPORT

Noted Committee 2 papers

Welsh Language Steering Committee noted this item on Tuesday 8 November 2022. Below is the council's own wording, with the papers it was decided on.

Item9

Resolved

RESOLVED the Welsh Language Steering Committee receive and note the Welsh as a Way of Working Information Report.
Word for word from the decision Denbighshire published for this meeting. Source: moderngov.denbighshire.gov.uk

Follow this further

Built from Denbighshire's papers

What the report saysPro

Report to Welsh Language Steering Committee

26 Hydref 2022

Annwyl Brif Weithredwr

Cyhoeddi Adroddiad Sicrwydd 2021-2022 – ‘Y Gymraeg fel ffordd o weithio’

Ysgrifennaf atoch yn cyflwyno adroddiad sicrwydd diweddaraf y Comisiynydd ar gyfer 2021-22 – Y Gymraeg fel ffordd o weithio.

Mae’r adroddiad sicrwydd yn rhoi barn y Comisiynydd ar y ffordd y mae sefydliadau’n gweithredu eu dyletswyddau iaith ac yn rhoi sylw i brofiadau defnyddwyr y gwasanaethau Cymraeg. Pwrpas yr adroddiad ydy rhoi cyfle i chi fel arweinwyr sefydliadau i ystyried sut mae eich corff chi yn perfformio yn erbyn y tueddiadau cyffredinol, ac i ystyried eich blaenoriaethau o ran parhau i wella a gweld cynnydd yn eich perfformiad. Mae’n gyfle i ddeall mwy am be sydd yn gweithio yn dda, i feddwl am adborth defnyddwyr y Gymraeg am eu profiadau wrth geisio derbyn gwasanaethau Cymraeg ac i herio eich hunain ar lefydd ble mae perfformiad yn wael.

Mae’r adroddiad yn canfod ar y cyfan, fod perfformiad cyrff yn eithaf sefydlog wrth gymharu arolygon a phrofiadau pobol dros gyfnod y pandemig. Fodd bynnag, mae risg fod y cynnydd a welwyd mewn cydymffurfiaeth cyn cyfnod y pandemig wedi arafu a bod tuedd o wanhau mewn rhai mannau.

Y prif bryder amlygodd flwyddyn diwethaf yw’r diffyg sylweddol sydd wrth gydymffurfio â dyletswyddau sy’n ymwneud â hysbysebu swyddi a dilyn prosesau recriwtio am staff newydd. Gosododd y Comisiynydd her i sefydliadau yn ôl yn 2019 yn ei adroddiad sicrwydd iddynt fod yn gwella eu perfformiad yn y maes hwn. Siomedig iawn felly yw gweld nad oes cynnydd ddigonol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf. 02/04

Mae angen chwyldro yn ymagwedd nifer o gyrff cyhoeddus tuag at ddenu gweithlu sy’n medru’r Gymraeg er mwyn gwella eu gallu i ymateb i hawliau’r cyhoedd o dan y safonau. Mae yna gyswllt clir rhwng cael gweithlu ddwyieithog a gallu cyrff i gynnig gwasanaethau atebol da. Rhaid i gyrff wella eu gallu i asesu anghenion ieithyddol swyddi gwag er mwyn gwella eu gallu i ddarparu yn Gymraeg ac felly defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r adroddiad hefyd yn parhau i dynnu eich sylw at yr angen i wella trefniadau wrth gydymffurfio â’r safonau llunio polisi. Mae dyfarniad diweddar Tribiwnlys y Gymraeg yn y maes hwn yn cael ei amlygu ac rwyf yn eich annog i roi sylw dyladwy i’ch trefniadau cydymffurfio â’r safonau llunio polisi gan eu bod yn allweddol i yrru newid wirioneddol o ran defnydd o’r Gymraeg.

Rwyf yn nodi yn yr adroddiad ein bod yn byw mewn oes o ansefydlogrwydd o ganlyniad i bandemig Covid-19, yr argyfwng costau byw, ac ansicrwydd o safbwynt ieithyddol wrth i ni aros am ganlyniadau’r Cyfrifiad. Rwyf am eich atgoffa fod y safonau yno i ddangos parch tuag at ddewis iaith ac i alluogi siaradwyr ym mhob man i allu byw eu bywydau yn y Gymraeg.

Mae gan eich sefydliad chi, fel bob sefydliad cyhoeddus Cymru rôl flaenllaw i’w chwarae wrth sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu a drwy ymrwymiad llawn i weithredu’r safonau mae modd i chi dylanwadu yn sylweddol ar greu Cymru ble mae modd defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eich swyddog cyswllt os hoffech drafod cynnwys yr adroddiad sicrwydd.

Yn gywir,

Gwenith Price

Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg 26 October 2022

Dear Chief Executive,

Publishing the 2021-2022 Assurance Report - ‘Welsh as a way of working’

I write to present to you the Commissioner’s latest assurance report – ‘Welsh as a way of working’.

Read every report as text, not just the decision

Pro opens the officer report behind each decision, searchable and quotable, across every council we cover.

Papers for this item

Kept in our archive, download once signed in
PDF
FOR INFORMATION: WELSH AS A WAY OF WORKING REPORTReport 144 KB DownloadRead as text
PDF
Welsh as a way of working: WLC Assurance Report 2021-22Report 934 KB Download

At this meeting

Whole meeting

On this subject at Denbighshire

Search all
  1. FOR INFORMATION - WELSH AS A WAY OF WORKING REPORTThis decision
  2. For information - welsh in education strategic planNoted
  3. Information report - welsh government consultation on changes to planning and related application feesNoted

More from Denbighshire Welsh Language Steering Committee

All decisions
MeetingDecisionOutcome
4 Mar 2026 MINUTESRESOLVED that subject to the above, the minutes of the previous meeting held on 13 November 2025 be received and appr... Approved Open
4 Mar 2026 Categorising language levels in the recruitment processRESOLVED that the Welsh Language Steering Committee note the Categorizing all the Council's jobs in terms of Welsh la... Noted Open
4 Mar 2026 Forward work programmeRESOLVED that, subject to the above, the Committee’s Forward Work Programme be received and noted. The meeting conclu... Noted Open
1 Jul 2025 MINUTESRESOLVED that subject to the above, the minutes of the previous meeting held on 21 November 2024 be received and appr... Approved Open
1 Jul 2025 Appointment of chairRESOLVED that Councillor Emrys Wynne be nominated as chair for the municipal year. Decided Open

We use a cookie to keep you signed in and run your free-paper allowance, and an optional one to count visits. You can accept all, or choose. Privacy & cookies