that the minutes of the meeting held on the 12 March 2025 be received and approved as a true and correct record of the proceedings. At this juncture the Chair allowed agenda item 6 to be discussed prior to agenda item 5 as the local member who wanted to attend was having technical issues joining the zoom meeting.
Word for word from the decision Denbighshire published for this meeting.Source: moderngov.denbighshire.gov.uk
Minutes of a meeting of the Planning Committee held in Council Chamber, County Hall, Ruthin and by video conference on Wednesday, 12 March 2025 at 9.30 am.
PRESENT
Councillors Michelle Blakeley-Walker, Ellie Chard, Karen Edwards, James Elson, Chris Evans, Justine Evans, Jon Harland, Huw Hilditch-Roberts, Alan James (Vice- Chair), Delyth Jones, Julie Matthews, Terry Mendies, Merfyn Parry, Gareth Sandilands, Andrea Tomlin, Cheryl Williams and Mark Young (Chair)
ALSO PRESENT
Legal Advisor (RJ), Principal Planning Officer (PG), Development Manager (PM), Minerals and Waste Planning Manager (HP), Committee Administrator (RhTJ) and Committee Administrator: Zoom Host (NH)
1 APOLOGIES
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Arwel Roberts a Elfed Williams
2 DECLARATIONS OF INTEREST
Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
3 URGENT MATTERS AS AGREED BY THE CHAIR
Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod.
4 MINUTES
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2025. Felly:
PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2025 fel cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau.
5 APPLICATION NO. 21/2021/1194 BURLEY HILL QUARRY, ERYRYS
Cyflwynwyd cais adran 73 i barhau â’r datblygiad yn Chwarel Burley Hill heb gydymffurfio â’r terfynau amser a osodwyd gan amodau 1, 26 a 30 o Atodlen 14 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 Adolygu amodau (cyf 21/2002/0009), ac i ddiwygio’r terfynau amser er mwyn caniatáu parhau â’r gwaith echdynnu am gyfnod o 15 flynyddoedd o ddyddiad penderfyniad y cais.
Gwahoddodd y Cadeirydd y swyddogion i egluro eu hargymhelliad o ohirio cyn caniatáu unrhyw drafodaeth ar y cais. Dywedodd swyddogion fod y cais yn gais mawr a manwl, sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, nid oedd rhai cynghorau cymuned leol yn ymwybodol bod y cais yn cael ei drafod a’i benderfynu yn y pwyllgor cynllunio heddiw (12/03/25); a heb weld yr adroddiad na phasio unrhyw sylwadau ar y cais, felly credai'r swyddogion y byddai gohirio yn decach ar y rhai nad oeddent wedi gweld y cais.
Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Terry Mendies (Aelod Lleol) y dylid gohirio'r cais a threfnu ymweliad safle cyn y cyfarfod nesaf. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorwr Alan James ac amlygodd y cydweithio rhwng yr aelodau ar yr ymweliad safle a awgrymwyd.
Pleidlais – O blaid – 17 Yn erbyn – 0 Ymatal – 0
PENDERFYNWYD: GOHIRIO’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Cyflwynwyd cais i godi estyniadau ac addasiadau i dŷ presennol gan gynnwys codi garej ar wahân yn ei lle a gwaith cysylltiedig yn Manninagh, Bodfari, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus - Rhys Davies (Asiant) – diolchodd i'r Pwyllgor am gael siarad ar ran y cais. Un llawr oedd yr annedd ar hyn o bryd, tra bod y tai amgylchynol i gyd yn ddau lawr; byddai'r estyniad arfaethedig yn cael ei osod o fewn gosodiad coetir. Byddai'r tŷ yn gefndir o goed aeddfed a llechwedd y tu ôl iddo ac felly ni fyddai'r estyniad i fyny yn cael effaith weledol sylweddol ar y dirwedd o'i gwmpas.
Tynnodd yr asiant sylw at bryderon a oedd yn parhau gan y cyngor cymuned; fodd bynnag, nid oedd unrhyw gymdogion yn gwrthwynebu'r cais; ac nid oedd siaradwyr cyhoeddus yn gwrthwynebu'r cais. Roedd yr ymgeiswyr wedi gwneud sawl consesiwn ers i'r cais ddechrau; a gwrthodwyd y cynlluniau hyn gan y cyngor cymuned a’r Cydbwyllgor AHNE fodd bynnag mae newidiadau sylweddol wedi eu gwneud a mesurau lliniaru wedi eu cynnwys yn y cynllun i leihau’r effaith ar y dirwedd ac nid oedd Cydbwyllgor AHNE yn cefnogi’r cais gydag amodau.
Read every report as text, not just the decision
Pro opens the officer report behind each decision, searchable and quotable, across every council we cover.
We use a cookie to keep you signed in and run your free-paper allowance, and an optional one to count visits. You can accept all, or choose. Privacy & cookies
Necessary
Keeps you signed in and runs your free-paper allowance. Always on.
Always on
Analytics
Counts visits and which pages are used. First-party only, no advertising, never shared.